Gweithgareddau
Mae cymaint o weithgareddau ar eich cyfer yn yr ardal, cewch gerdded yr arfordir godidog, dringo i gopa'r Wyddfa, ymweld a chastell Caernarfon neu gymryd rhan yn y gweithgareddau gorau sydd gan yr ardal i'w gynnig.
Gweithgareddau Arbennig Yn ein barn ni, mae'r gorau sydd gan yr ardal i'w gynnig i'w gael gan rai o'r trigolion lleol. 'Rydym wedi dewis llond llaw o weithgareddau yn yr ardal yr ydym ni'n meddwl sydd yn wych - cyfrinachau y byddwch yn siwr o'i mwynhau.
Gwersi Syrffio ar Benrhyn Llŷn Ewch i syrffio am hanner diwrnod gyda Guto Roberts neu Lee Oliver ar Benrhyn Llyn. Cyfle gwych i weld y traethau gorau, dysgu rhywbeth newydd a byddwch yn dod yn ôl gyda gwen lydan ar eich gwyneb! Mae'r gweithgaredd yma yn dibynu ar dywydd ond os yw'r haul yn tywynnu a'r gwynt ar eich cefn bydd yn ddiwrnod arbennig. Mae Guto'n meddu ar gymhwyser Lefel 1 "dysgu syrffio" gan y Mudiad Syrffio Cenedlaethol. Cysylltwch gyda Guto i drefnu hyn ar 07732892248 neu ymweld gyda'i wefan, cliciwch yma.
Ymweld â Ynys Enlli
Mae mynd i Ynys Enlli, ynys 20,000 o seintiauyn brofiad ysbrydol byth-gofiadwy. Mae manylion llawn am deithiau diwrnod i'w cael ar y we, cliciwch yma. Dyliech hefyd gymryd golwg ar wefan swyddogol yr Ynys gan glicio yma, ble y cewch flas ar yr hanes, llonyddwch a'r byd natur sydd gan yr Ynys i'w gynnig.
Tylino ac Ymlacio
Beth am gael triniaeth Manicure, Pedicure neu massage tra'n aros gyda ni? Gallwn gynnig hyn i chi drwy law Tracy Howes, cysylltwch am fwy o wybodaeth neu cysylltwch gyda Howes Therapy.
Pysgota gyda Gwydion!
Ymlacio, anghofio, crwydro a gweld y gorau sydd gan yr ardal i'w gynnig - llefydd na fyddech yn debygol o ddod ar ei traws heb i chi fod yn pysgoda gyda Gwydion ap Wyn. Gall Gwydion ddarparu yr holl offer y byddwch ei angen a'ch tywys ar daith i bysgota yn y lleoliadau gorau yn yr ardal gan eich rhoi ar ben ffordd ar yr un pryd. Efallai y byddwch am bysgota môr, llynoedd ar fynydd neu ar lan afon - cysylltwch gyda Gwydion ar 0777569182 i drefnu. Peidiwch a colli allan ar y gyfrinach hon, diwrnod arbennig!
Cerdded - Corneli Cudd gyda Catrin!
Cerdded yw'r gweithgaredd mwyaf poblogaidd yn Eryri ac ar Benrhyn Llyn, mae cymaint o lefydd i chi ymweld a nhw ond bydd Catrin Roberts yn mynd a chi i weld cyfrinachau gorau Eryri. Byddwch nid yn unig yn mwynhau y golygfeydd gorau ond bydd Catrin yn egluro hanes, diwylliant, deareg, barddoniaeth a llystyfiant i chi a cewch gyfle i flasu y Jam a'r Chutney gorau sydd ar gael yn unrhyw le yn Nghymru. Peidiwch a colli allan ar hyn! Rhowch alwad iddi i drefnu taith byth-gofiadwy ar 07900615380.
Llwybr Fferm; Hanes a Natur
Rydym wedi datblygu llwybr cerdded unigryw o amgylch y fferm ble y byddwch yn dod wyneb yn wyneb a chefn gwlad arbennig, hanes cyfoethog a cynefinoedd naturiol heb ei hail. Yn ogystal cewch bysgota ar lan yr afon drwy garedigrwydd stad Trallwyn; gallwn ddarparu'r cyfarpar ar eich cyfer. Dilynwch yr arwyddion yma...
Beicio
Rydym hefyd mewn ardal wych ar gyfer beicio a rydym yn cynnig beics ar eich cyfer gan gynnwys tandem!