Gwyliau Llyn ac Eryri Logo Gwersylla Moethus ar Benrhyn Llŷn Change LanguageEnglishSpacerTrip AdvisorSpacerFollow Away From It All on Twitter
Adref Pabell Carnguwch Pabell Yr Eifl Pabell Ceiri Cerbyd Cwsg Oriel Ardal Gweithgareddau Cysylltu Ble? Geirda Egwyddorion
Spacer
Llun o babell CarnguwchPabell Yr Eifl
Dyma'r babell berffaith ar gyfer ymlacio a mwynhau cefn gwlad ar ei orau. Mae giat yn gwahanu'r babell oddi wrth yr afon yn sicrhau bod y babell hon yn addas i deuluoedd gyda plant bychain.

Mae'r babell yn cysgu 4, gyda un gwely dwbl a dau wely futon sengl ynddi. Mae pob pabell yn cynnwys lamp a radio "weindio" ynghyd a stôf goed a chartheni Cymreig o safon. Mae tŷ bach ar gael o fewn tafliad carreg i'r babell ynghyd a chawodydd modern a chegin syml ar gyfer coginio os bydd tywydd gwael.

Cewch eistedd y tu allan o 'dan y sêr' ac o flaen tanllwyth o dân yn coginio a siarad wrth edrych ar y bywyd gwyllt o'ch cwmpas.

'Rydym yn darparu hamper o fwyd lleol i bawb sy'n aros gyda ni yn rhad ac am ddim yn flas o'r cynnyrch lleol arbennig sydd gan yr ardal i'w gynnig. Cewch gasglu wyau eich hunain yn ddyddiol a helpu i fwydo'r moch!

Gobeithio na fydd eich cymdogion, diadell o ddefaid, yn eich cadw'n effro yn y nôs! Mae papell yr Eifl yn agos i’r cawodydd a’r gegin sydd o dan do, yn gyfleus os oes plant bychain iawn gennych chi; mae o hefyd wedi ei gau oddi wrth yr afon yn ddiogel.

Pryd mae'r babell ar gael ac archebu ? Prisiau
  Canol Wythnos.
4 noson o nos Lun.
Pen-wythnos, 3 noson o ddydd Gwener 7 noson o ddydd Gwener
Tymor Isel £200 £200 £250
Tymor Canolig £250 £250 £350
Tymor Prysur £300 £300 £450

Ymholiad:

Os ydych am ofyn unrhyw gwestiwn, ymholi am ddyddiadau arbennig neu os am dalu gyda siec cysylltwch gyda ni gan ddefnyddio'r ffurflen hon.

Enw Llawn:
E-Bost:
Ymholiad:




Beth sydd wedi ei gynnwys?

Byddwch Angen:
Gwely dwbl gyda dau ddror sylweddol ar bob ochr ynghyd â dillad gwely.
Dau wely "Futon" sengl.
Stof ar gyfer BBQs.
Cyllill, ffyrc, platiau, potiau a sosbeni (yn y gegin gymunedol.)
Cobenydd(ion) a gorchydd.
Carethenni Cymreig.
Llenni llawn ar y ffenestr.
Oergell a Rhewgell a Phopty (yn y gegin gymunedol).
Twll o dân (fire pit) y tu allan i'r babell.
Blychau storio (yn y gegin gymunedol).
Basged gyntaf o goed tân am ddim.
Cyflenwad o ddŵr.
Byrddau picnic.
Canwyllau bychain.
Cegin syml gymunedol gyda sinc a dŵr poeth.
Lanteri bychain.
Hylif golchi llestri.
Blychau ail-gylchu.
Dillad cynnes.
Slipas neu esgidiau ysgafn ar gyfer y tu mewn i'r babell.
Bagiau cysgu ar gyfer y plant ar y gwlau Futon.
Bag molchi.
Defnydd atal pryfetach! ...rydych yn campio wedi'r cwbl!
Ysbryd o antur a hwyl!