![]() |
Gwersylla Moethus ar Benrhyn Llŷn | English![]()
|
|
Adref
Pabell Carnguwch
Pabell Yr Eifl
Pabell Ceiri
Cerbyd Cwsg
Oriel
Ardal
Gweithgareddau
Cysylltu
Ble?
Geirda
Egwyddorion |
Pabell CeiriMae pabell Ceiri yn newydd sbon eleni ac mae hi wedi ei gosod rhwng pabell Carnguwch a'r Eifl, dim ond 100m oddi wrth y toiledau, y cawodydd a'r gegin. Mae'r babell hon yn ddelfrydol ar gyfer mwynhau cefn gwlad ar ei orau a cewch fwynhau golygfa wych o'r afon Erch yn llifo heibio'r babell o'ch gwely! Gan ei bod mor agos at yr afon rydym yn awgrymu y dylid cadw llygaid ar blant bach ac efallai y byddai papell yr Eifl yn well ar eu cyfer. 'Rydym yn darparu hamper o fwyd lleol i bawb sy'n aros gyda ni yn rhad ac am ddim yn flas o'r cynnyrch arbennig sydd gan yr ardal i'w gynnig. Cewch gasglu wyau eich hunain yn ddyddiol a helpu i fwydo'r moch! Gobeithio na fydd eich cymdogion, diadell o ddefaid, yn eich cadw'n effro yn y nôs! Mae papell Ceiri yn agos i’r cawodydd a’r gegin sydd o dan do, yn gyfleus os oes plant gennych chi; er hyn dylid nodi bod afon ger llaw y babell. Os am aros gyda plant bychain rydym yn awgrymu pabell yr Eifl ar eich cyfer.
|
Pabell Foethus , Rhentu Cerbyd Cwsg, Gwybodaeth am Yr Ardal, Gweithgareddau |
| Amodau Archebu - Amdanom Ni - © Dan-y-sêr 2012 - Angen Ffermwyr\Tir Feddianwyr -post@dan-y-ser.com |