Pabell Carnguwch
Dyma'r babell berffaith ar gyfer ymlacio a mwynhau cefn gwlad ar ei orau.
Mae'r babell yn cysgu 4, gyda un gwely dwbl a dau wely futon sengl ynddi.
Mae pob pabell yn cynnwys lamp a radio "weindio" ynghyd a stôf goed a chartheni Cymreig o safon. Mae tŷ bach ar gael o fewn tafliad carreg i'r babell ynghyd a chawodydd modern a chegin syml ar gyfer coginio os bydd tywydd gwael.
Cewch eistedd y tu allan o 'dan y sêr' ac o flaen tanllwyth o dân yn coginio a siarad wrth edrych ar y bywyd gwyllt o'ch cwmpas.
'Rydym yn darparu hamper o fwyd lleol i bawb sy'n aros gyda ni yn rhad ac am ddim yn flas o'r cynnyrch arbennig sydd gan yr ardal i'w gynnig.
Cewch gasglu wyau eich hunain yn ddyddiol a helpu i fwydo'r moch! Gobeithio na fydd eich cymdogion, diadell o ddefaid, yn eich cadw'n effro yn y nôs!
Mae pabell Carnguwch yn bell o bob man, a’r unig sŵn fydd yn tarfu arnoch yma fydd yr adar bach, yr afon a’r anifeiliaid ar y fferm.
| Pryd mae'r babell ar gael ac archebu ? |
Prisiau |
|
| |
Canol Wythnos.
4 noson o nos Lun. |
Pen-wythnos,
3 noson o ddydd Gwener |
7 noson o ddydd Gwener |
| Tymor Isel |
£200 |
£200 |
£250 |
| Tymor Canolig |
£250 |
£250 |
£350 |
| Tymor Prysur |
£300 |
£300 |
£450 |
Ymholiad:
Os ydych am ofyn unrhyw gwestiwn, ymholi am ddyddiadau arbennig neu os am dalu gyda siec cysylltwch gyda ni gan ddefnyddio'r ffurflen hon.
|
Beth sydd wedi ei gynnwys? |
Byddwch Angen: |
Gwely dwbl gyda dau ddror sylweddol ar bob ochr ynghyd â dillad gwely.
Dau wely "Futon" sengl.
Stof ar gyfer BBQs.
Cyllill, ffyrc, platiau, potiau a sosbeni (yn y gegin gymunedol.)
Cobenydd(ion) a gorchydd.
Carethenni Cymreig.
Llenni llawn ar y ffenestr.
Oergell a Rhewgell a Phopty (yn y gegin gymunedol).
Twll o dân (fire pit) y tu allan i'r babell.
Blychau storio (yn y gegin gymunedol).
Basged gyntaf o goed tân am ddim.
Cyflenwad o ddŵr.
Byrddau picnic.
Canwyllau bychain.
Cegin syml gymunedol gyda sinc a dŵr poeth.
Lanteri bychain.
Hylif golchi llestri.
Blychau ail-gylchu. |
Dillad cynnes.
Slipas neu esgidiau ysgafn ar gyfer y tu mewn i'r babell.
Bagiau cysgu ar gyfer y plant ar y gwlau Futon.
Bag molchi.
Defnydd atal pryfetach! ...rydych yn campio wedi'r cwbl!
Ysbryd o antur a hwyl! |
|