Dewch i aros gyda ni yn ein pebyll moethus yma ar y fferm ar Benrhyn Llŷn. Profiad arbennig mewn ardal odidog.

Profiad unigryw a byth gofiadwy.

Pabell gyda gwely dwbl a dau wely bach sengl.

Stôf losgi coed a chartheni moethus, Cymreig.

Profiad unigryw i deulu neu gyplau rhamantus.

Tanllwyth o dân, sgwrs, llyfr a gêm o gardiau.

Toiledau compostio, profiad arbennig!

Gwersyll ag egwyddorion cynaliadwy.

Bwyd lleol o safon ynghyd â gwaith celf.

Safle heddychlon ond yn ganolog i Lŷn ac Eryri.

Darpariaeth o feics i grwydro'r ardal.

Llwybr Fferm llawn hanes, treftadaeth a natur.