| Mae cymaint gan yr ardal hon i'w gynnig. Yma cewch y môr a'r mynydd! Y mynyddoedd mwyaf yng Nghymru ynghyd â Pharc Cenedlaethol ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Arbennig a thraethau arbennig Penrhyn Llŷn. Mae digonedd i wneud yma, a hynny i'r teulu cyfan gyda digwyddiadau, atyniadau a gweithgareddau awyr agored wedi eu lleoli yma.

Traeth Porth Dinllaen ym Morfa Nefyn, un o draethau gorau'r Penrhyn. Cewch fwynhau gem o golff ar ei glannau.

Beth am ymweld gyda thafarn arbennig y Tŷ Coch ar lan y môr ym Mhorth Dinllaen a cherdded o amgylch y Clwb Golff arbennig yn Nefyn?

Mae castell arbennig hefyd yng Nghriccieth ac yma cewch fwynhau hufen ia Cadwaladers - yr hufen iâ gorau yn y byd.

Pentref Eidalaidd Portmeirion, safle arbennig a wnaethpwyd yn enwog gan Y Prisoner.

Byddai'n werth ymweld ag Ynys Enlli am ddiwrnod neu fynd i Aberdaron ble y medrwch edrych ar yr Ynys ar draws y dŵr. |

Mae cerdded dros y Cnicht ac ymweld gyda'r caffi ar droed y mynydd yn ffordd wych o weld a mwynhau mynyddoedd yr ardal ac yn ddiwrnod bendigedig.

Mae ymweld gyda Chastell Caernarfon yn brofiad arbennig, safle treftadaeth y byd ac mae gan drefi cyfagos Porthmadog a Phwllheli lawer iawn i'w gynnig yn ogystal.

Beth am fynd ar Reilffordd Ucheldir Cymru am brynhawn, ymweld gyda Phorthmadog, Blaenau Ffestiniog neu Caernarfon?

Y Wyddfa yw un o brif atyniadau'r ardal a chewch fwynhau pryd o fwyd ar ôl cyrraedd y brîg!

Mae llefydd gwych i gerdded hefyd yn yr ardal hon, Nant Gwrtheyrn a mynyddoedd yr Eifl.

|