|
Cerbyd Cwsg VW
Dyma gyfle i logi Cerbyd Cwsg VW a darganfod trysorau Gwynedd, Eryri a Chymru mewn steil. Gadewch eich car gyda ni a mynd a "Joyce" a Jim y Gnome ar wyliau! Mae'r cerbyd yn cysgu dau ar wely sydd yn tynnu allan yn y cefn ac mae stof nwy, "cool box", bbq, cadeiriau, bwrdd a chypyrddau ynddi.
Gadael eich car gyda ni neu medrwn gwrdd gyda chi ym Mangor.
Dewch a bag cysgu neu dwfe eich hun ynghyd a chlustogau.
Mae BBQ yn gynwysiedig ynghyd a blwch oeri.
Bwrdd a chadeiriau haul
Cyllill, ffyrc, llwyau, platiau, powleni, sosbeni ayb
Radio a dyfais SatNav
Copi o lyfr coginio VW "Cook Book"
Aelodaeth gyda cwmni cymorth ochr y ffordd.
Mae'r cerbyd yn hawdd i'w yrru ond cofiwch ei bod dros 30 o flynyddoedd oed gyda uchafswm cyflymder o 60 milltir yr awr. Bydd angen cymryd pwyll a mwynhau y golygfeydd! Mae'r pris yn cynnwys yswiriant ar eich cyfer, bydd angen deposit bychain a fydd yn cael ei ad-dalu pam ddaw Joyce yn ol yn ddiogel!
| Pryd mae'r cerbyd ar gael ac archebu ? |
Prisiau |
|
Os ydych am gael pris, gofyn unrhyw gwestiwn, ymholi am ddyddiadau arbennig cysylltwch gyda ni gan ddefnyddio'r ffurflen hon.
|
| |
|
Beth sydd wedi ei gynnwys?
Gadael eich car gyda ni neu medrwn gwrdd gyda chi ym Mangor
Nid oes dillad gwely, dewch a bag cysgu neu dwfe eich hun!
Mae BBQ yn gynwysiedig ynghyd a "cool box".
Bwrdd a chadeiriau haul
Cyllill, ffyrc, llwyau, platiau, powleni, sosbeni ayb
Radio a dyfais Sat Van
Copi o lyfr coginio VW "Cook Book"
Aelodaeth gyda cwmni "cymorth ar ochr y ffordd"
|
Byddwch Angen:
Bagiau cysgu.
Bag molchi!
Ysbryd o antur a hwyl!
Cyfyngiadau:
Ni fydd Joyce yn hapus yn mynd dros 50 mya!
Byddwn angen eich manylion gyrru ar gyfer trefnu yswiriant
Nid ydym am i Joyce ymweld a phellafoedd byd, felly mae cyfyngiad teithio i siroedd Gwynedd, Môn ac ardal Eryri. Gadewch i ni wybod os ydych am fyn a hi'n bellach na hyn! |
|